Mewn algebra, gelli di ddefnyddio llythyren i gynrychioli rhif nad wyt ti’n ei wybod.Gallwn ni greu termau algebraidd, ee 2x a 5y a'u rhoi at ei gilydd i greu mynegiad algebraidd, ee 2x + 5y + 3z.
Mae’r hysbyseb yn dweud mai cost parti ydy \(\pounds{50}\) plws \(\pounds{5}\) y person. Felly beth fyddai cost parti i \({10}\) person?
Y gost fyddai \(\pounds{50}+({10}\times\pounds{5})=\pounds{50}+\pounds{50}=\pounds{100}\)
Beth fyddai cost parti i \({20}\) person?
\[\pounds{50}+({20}\times\pounds{5})=\pounds{50}+\pounds{100}=\pounds{150}\]
Sut mae cyfrifo'r gost os nad wyt ti’n gwybod faint o bobl fydd yn dod i’r parti?
Gyda’r fformiwla hon gelli di ganfod cost parti i unrhyw nifer o bobl.
Rho gynnig ar y cwestiwn nesaf i weld a fedri di ddefnyddio \({n}\) mewn mynegiad arall.
Mae Alwena’n \({12}\) mlwydd oed. Beth fydd ei hoed hi ymhen \({n}\) blynedd?
Ymhen \({n}\) blynedd bydd ei hoed wedi cynyddu \({n}\). Felly bydd ei hoed \({n}\) yn fwy nag ar hyn o bryd.
Ei hoed fydd \({12} + {n}\) mlwydd oed.
Gwiria dy ateb. Ymhen \({1}\) flwyddyn bydd hi’n \({13}\). Os rhown \({1}\) i mewn ar gyfer gwerth \({n}\) fe gawn ni \({12} + {1} = {13}\). Felly mae hynny’n gywir.
Ymhen deng mlynedd bydd hi’n \({22}\), ac mae rhoi \({n} = {10}\) yn rhoi \({oed} = {12} + {10} = {22}\).
Felly mae'n debyg bod y fformiwla yn gywir.