Gall meddwl yn greadigol helpu i greu nwyddau a gwasanaethau arloesol. Rhaid i fusnesau ddatblygu cymysgedd marchnata effeithiol ar gyfer y nwyddau hyn er mwyn diwallu anghenion eu cwsmeriaid.
Mae meddwl yn greadigol yn ffordd o ddatblygu syniadau newydd.
Gallai syniadau creadigol gynnwys:
Mae meddwl yn greadigol yn ddefnyddiol iawn, oherwydd mae’n ffordd o wella cynnyrch, prosesau a gwasanaethau. Mae’n golygu bod modd lleihau costau cynhyrchu, creu cynnyrch a gwasanaethau newydd, neu eu gwella.
Dechreuodd gwasanaeth tacsi Uber o ganlyniad i feddwl yn greadigol. Roedd sefydlwyr y cwmni yn methu cael tacsi ar y stryd, felly dyma feddwl am syniad syml – pwyso botwm a chael reid.
Lansiodd cwmni Sharp yr Aquos Crystal newydd yn 2014 gan dorri tir newydd ym maes technoleg ffonau symudol. Y ffôn hwn oedd y ffôn cyntaf i gael sgrin ymyl-i-ymyl a thechnoleg sgrin sy’n dirgrynu.
Roedd y dechnoleg hon yn golygu bod y sgrin yn dirgrynu pan oedd mewn cysylltiad â’r glust ac yn trosglwyddo sŵn, yn wahanol i seinydd arferol.
Mae arloesi yn cyfeirio at y broses o droi syniad yn gynnyrch, neu wasanaeth sy’n creu gwerth.
Mae hyn yn golygu bod yn rhaid gallu ail-greu’r cynnyrch am gost dderbyniol, a bod yn rhaid i’r cynnyrch fodloni angen penodol.
Gall arloesi fod yn esblygol neu’n chwyldroadol.