Proffiliau afon

Hydbroffil

Mae hydbroffil yn dangos sut y mae’r afon yn newid yn ystod ei chwrs o’r tarddiad (lle mae’n cychwyn) i’r aber (lle mae’n cyrraedd y môr).

Mae gan ran uchaf yr afon lwyth gwely mwy - yn fwy garw, ac mae mwy o gynnwrf a ffrithiant yno. Rhan isaf yr afon sydd â’r trawstoriad mwyaf, y radiws hydrolig mwyaf a’r cyflymder a’r arllwysiad mwyaf

Cwrs uchaf – dyma ble mae’r afon yn cychwyn ac fel arfer mae ar dir uchel. Mae gan yr afon lwyth mawr yn y cwrs uchaf, gan nad yw wedi cael ei dorri’n ddarnau llai drwy erydiad eto.

Cwrs isaf – yng nghwrs olaf yr afon mae’r tir yn llawer mwy gwastad. Gwaddod mân yw llwyth yr afon, gan fod erydiad wedi torri’r creigiau’n ddarnau llai.

Trawsbroffil

Trawsbroffil yw golwg o’r dyffryn o un ochr i’r llall.

Mae sianel yr afon yn gul yn ei tharddle (A), yn lletach yn y canol (B) ac yn lletach eto yn yr aber (C).

A - wrth i’r afon lifo ar i lawr mae erydiad fertigol yn cynyddu. Mae’r sianel yn fas ac yn gul gan nad oes llawer o ddŵr ynddi.

B - wrth i’r afon lifo i’r cwrs canol, mae rhywfaint o erydiad fertigol, ond mwy o erydiad ochrol. O ganlyniad, mae’r sianel yn lletach ac yn ddyfnach.

C - yn y cwrs isaf mae llawer llai o erydiad ac mae dyddodiad yn cael mwy o ddylanwad. Ychydig o erydiad ochrol sy’n digwydd yma. Dyma ran letaf a dyfnaf y sianel.