Tywydd yw amodau’r atmosffer o ddydd i ddydd mewn lle penodol. Hinsawdd yw amodau tywydd cyfartalog lle dros gyfnod, 30 mlynedd fel arfer.
Mae tywydd y byd yn ddibynnol ar nifer o systemau cylchrediad atmosfferig a chefnforol. Y pedwar prif ffactor rheoli yw:
Mae aer cynnes yn codi ar y Cyhydedd, lle mae’r Haul ar ei uchaf yn yr awyr, ac yn teithio tua 30º i’r gogledd lle mae’n oeri ac yn suddo i’r arwyneb cyn dychwelyd i’r trofannau. Enw’r symudiad hwn yw cell Hadley.
Mae cell Ferrel rhwng cell Hadley a’r gell begynol, ac mae wedi’i lleoli rhwng 60º i’r gogledd a 30º i’r gogledd. Dyma lle mae’r Deyrnas Unedig.
Mae’r gell begynol yn llawer llai. Mae aer oer yn suddo ym Mhegwn y Gogledd, cyn llifo i’r de ar yr arwyneb. Yma mae’n cael ei gynhesu drwy gysylltiad â thir/cefnfor tua 60º i’r gogledd, lle mae’n codi.
Ar y Cyhydedd mae ardal o wasgedd isel, o ganlyniad i’r aer sy’n codi ac yn ehangu. Tua 30º i’r gogledd mae’r aer sy’n suddo’n creu ardal o wasgedd uchel.
Mae cefnforoedd y byd hefyd yn chwarae rhan bwysig wrth ailddosbarthu egni o amgylch y glôb a rheoli hinsoddau.
Mae egni’n cael ei symud o ardaloedd lle mae gormodedd i ardaloedd lle mae prinder, â cheryntau cynnes yn cludo dŵr cynnes tuag at y pegynau a cheryntau oer yn mynd â dŵr oerach i ledredau is.
Mae dŵr yn cael ei drosglwyddo o amgylch y byd fel rhan o’r hyn sy’n cael ei alw’n system cludfelt cefnforol neu’r system cylchrediad thermohalinaidd.
Mae’r cefnforoedd yn gorchuddio 67 y cant o arwyneb y Ddaear, ac felly’n derbyn 67 y cant o’r egni sy’n cyrraedd y Ddaear o’r Haul. Mae’r cefnforoedd yn cadw’r gwres hwn am fwy o amser na’r tir ac mae ceryntau’r cefnforoedd yn symud y gwres hwn o gwmpas, o’r trofannau i ledredau uwch.
Yn y DU, mae Drifft Gogledd Iwerydd yn gerrynt o ddŵr cynnes sy’n symud i gyfeiriad y gogledd-ddwyrain ac yn cynnal hinsawdd gynnes dymherus Prydain – heb y cerrynt hwn mae’n bosibl y byddai Prydain yn plymio i oes iâ.
Mae tymereddau’n gostwng po bellaf yw ardal o’r Cyhydedd oherwydd bod y Ddaear yn grwm. Mewn ardaloedd sy’n nes at y pegynau, mae gan olau’r haul fwy o atmosffer i basio drwyddo ac mae’r Haul ar ongl is yn yr awyr. O ganlyniad, mae mwy o egni’n cael ei golli ac mae tymereddau’n oerach. Mae’r DU rhwng lledredau 50 a 58 gradd o’r Cyhydedd.
Yn ychwanegol at hyn, mae’r ffaith fod rhew/iâ ac eira i’w cael yn nes at y pegynau yn achosi effaith albedo, hynny yw mae mwy o egni solar yn cael ei adlewyrchu, ac mae hyn hefyd yn cyfrannu tuag at yr oerfel.
Mae gan leoliadau sydd ar dir uwch dymereddau oerach. Mae tymheredd fel arfer yn gostwng 1°C am bob 100 metr o uchder. Byddai’r tymheredd ar gopa’r Wyddfa (tua 1,000 m uwchben lefel y môr) tua 10 gradd yn oerach nag yn nhref gyfagos Porthmadog sydd ar yr arfordir.