Gall ffracsiynau, degolion a chanrannau i gyd fod â’r un gwerthoedd ac fe allai fod yn ddefnyddiol i ti wybod sut i drosi rhyngddyn nhw.
Ystyr \({0.38}\) ydy \({38}\) canfed, felly \({0.38} = \frac{38}{100} = \frac{19}{50}\)
Yn yr un modd, \({0.4} = \frac{4}{10} = \frac{2}{5}\), a \({0.125} = \frac{125}{1000} = \frac{1}{8}\)
Ysgrifenna \({0.7}\) fel ffracsiwn yn ei ffurf symlaf.
\[\frac{7}{10}\]
Ystyr \(\frac{3}{10}\) ydy tri degfed, felly ysgrifenna hyn fel \({0.3}\).
Ystyr \(\frac{17}{100}\) ydy un deg saith canfed, felly ysgrifenna hyn fel \({0.17}\).
Ysgrifenna \(\frac{9}{100}\) fel rhif degol.
\[\frac{9}{100} = {0.09}\]
Pan nad ydy’r rhif gwaelod yn lluosrif i \({10}\), gelli di drosi ffracsiwn yn rhif degol drwy rannu’r rhif top â’r rhif gwaelod. Efallai bydd angen i ti ddefnyddio cyfrifiannell.
Er enghraifft:
\[\frac{3}{4} = {3}\div{4} = {0.75}\]
\[\frac{16}{25} = {16}\div{25} = {0.64}\]