Defnyddio’r gosb eithaf yn gyhoeddus hyd at y 19eg ganrif

Defnyddiwyd y gosb eithaf ar gyfer troseddau difrifol drwy gydol y 16eg, 17eg, 18fed a’r 19eg ganrif.

curriculum-key-fact
Cafodd y gosb eithaf ei wneud yn gyhoeddus hyd at 1868. Ar ôl hynny, roedd yn dal yn cael ei defnyddio ond nid yn gyhoeddus.

Y dull mwyaf cyffredin o ddienyddio oedd crogi. Roedd gan bron bob tref a dinas fan dienyddio, gyda sgaffaldiau. Yn Llundain, yn Tyburn y cafodd y rhan fwyaf o droseddwyr eu crogi, ger Marble Arch erbyn hyn. Yn aml, cafodd carcharorion eu llusgo o garchar Newgate i'r fan hon. Yn 1537, defnyddiodd Harri VIII Tyburn i ddienyddio arweinwyr y Pererindod Gras. Hefyd yn ystod teyrnasiad Harri VIII, gofynnwyd i'r Esgob Rowland Lee ddod â chyfraith a threfn i Gymru a chafodd dros 5,000 o bobl eu crogi'n gyhoeddus.

Llun o olygfa yn yr awyr agored lle mae dyn yn hongian o grocbren sydd wedi’i amgylchynu gan filwyr. Mae pobl yn gwylio o’r adeiladau o amgylch.
Dienyddiad Iarll Ferrers yn Tyburn, Paddington, Llundain, 1760

Fel arfer roedd troseddwyr yn cael eu cludo ar gefn trol at y crocbren. Ar y ffordd gallai pobl daflu pethau at y troseddwr ac roedden nhw’n aml yn gweiddi arno. Yn aml byddai offeiriad yn annog y troseddwr a gondemniwyd i ymddiheuro am ei droseddau. Yna byddai’r troseddwr yn cael ei grogi ac yn marw o ganlyniad i lindagiad. Yn aml byddai perthnasau’r troseddwr yn tynnu ar draed y troseddwr er mwyn cyflymu’r farwolaeth.

Roedd dulliau eraill o ddienyddio yn cynnwys llosgi i farwolaeth, ac roedd hon yn bennaf yn gosb ar gyfer heresi. Byddai troseddwyr yn cael eu clymu i bolyn a byddai tân yn cael ei gynau o’u cwmpas. Yn aml byddai powdr gwn yn cael ei roi rhwng coesau’r person a gondemniwyd er mwyn cyflymu’r farwolaeth.

Y ffugiwr Catherine Murphy oedd y ferch olaf yn Lloegr i gael ei llosgi'n swyddogol ar 18 Mawrth 1789. Cafodd ei chrogi’n gyntaf gan fod y weithred o losgi i farwolaeth bellach yn ddi-chwaeth. Flwyddyn yn ddiweddarach, diddymwyd y gosb o losgi, oedd ar y pryd yn berthnasol i fenywod ac nid i ddynion.

Y dull dienyddio ar gyfer teyrnfradwriaeth oedd torri pen, neu grogi, diberfeddu a phedrannu. Torrwyd pennau aelodau o’r teulu brenhinol, fel arfer gyda bwyell. Dienyddiwyd Mari Brenhines Yr Alban yn y modd yma yn 1587.

Roedd pobl gyffredin oedd yn cael eu canfod yn euog yn cael eu crogi, ond yn cael eu tynnu i lawr tra’r oedden nhw’n dal yn fyw. Yna byddid yn tynnu eu perfeddion allan. Yna torrwyd eu pennau a byddai eu cyrff yn cael eu torri’n bedwar rhan (sef 'pedrannu'). Byddai tir ac arian y bradwr yn cael ei feddiannu gan y frenhiniaeth. Cafodd Guy Fawkes ei ddedfrydu i’w ddienyddio fel hyn, ond llwyddodd i osgoi hynny drwy dorri ei wddf ar ôl taflu ei hun oddi ar y llwyfan ym mis Ionawr 1606.

Un Cymro enwog a ddienyddiwyd oedd arweinydd y Siartwyr, Richard Lewis, a elwid hefyd yn Dic Penderyn. Cyhuddwyd Dic o anafu un o’r milwyr a anfonwyd i ddod â Terfysg Merthyr i ben. Ef oedd unig arweinydd y gwrthryfel i gael ei ddienyddio. Fe'i crogwyd y tu allan i Garchar Caerdydd ym mis Awst 1831. Ei eiriau olaf oedd O Arglwydd, dyma gamwedd.

Defnyddio’r gosb eithaf yn gyhoeddus yng Nghymru

Map sy’n dangos y llwybr y byddai carcharor yng Ngharchar Caerdydd yn ei gymryd i’r grocbren yng Nghyffordd Marwolaeth.

Roedd gan y rhan fwyaf o drefi Cymru grocbren ar gyfer dienyddio’n gyhoeddus. Roedd rhai yn grocbrennau parhaol, ac roedd eraill yn cael eu tynnu i lawr ac yn cael eu hailadeiladu pan fo’r angen. Yng Nghaerdydd byddai troseddwyr yn cerdded o garchar y Castell at y crocbren mewn ardal yn Y Rhath a elwir yn lleol hyd heddiw yn Gyffordd Marwolaeth.

Erbyn diwedd y 18fed ganrif roedd mwy a mwy o ddienyddio yn digwydd y tu allan i garchar y dref, a hynny mae’n debyg oherwydd hwylustod.

Yn Abertawe, y person olaf i’w ddienyddio oedd Robert Coe oedd yn 18 oed, a grogwyd ym mis Ebrill 1866 ar dwyni tywod y tu allan i garchar y dref. Ar ôl hynny roedd dienyddio yn digwydd yn breifat y tu mewn i garchardai. Yng Nghaernarfon, defnyddiwyd y tŵr crogi ym muriau’r dref ar gyfer dienyddio.