Y dull gwyddonol

Mae gwyddonwyr yn defnyddio gweithdrefn safonol ar gyfer ehangu ein hadnabyddiaeth a’n dealltwriaeth o’r byd, sef y dull gwyddonol.

  • Maen nhw'n nodi arsylwad neu broses maen nhw eisiau gallu ei esbonio.
  • Maen nhw'n llunio rhagdybiaeth, sef syniad a allai egluro’r arsylwad neu’r broses, ac sy'n gallu rhoi prawf arno.
  • Maen nhw'n gwneud arbrofion i brofi’r rhagdybiaeth, a gall y rhain ategu neu wrthbrofi’r rhagdybiaeth.
  • Os yw’r dystiolaeth yn ategu’r rhagdybiaeth, bydd gwyddonwyr yn ailadrodd y broses sawl gwaith gyda gwahanol arsylwadau a gwahanol arbrofion – efallai gan ddefnyddio gwahanol offerynnau a gwahanol ymchwilwyr.
  • Os yw'r rhagdybiaeth yn cael ei phrofi mewn sawl ffordd wahanol a’i bod heb ei gwrthbrofi, mae’n datblygu’n ddamcaniaeth. Mae damcaniaeth sydd wedi’i derbyn gan wyddonwyr yn gallu cael ei disodli’n ddiweddarach gan ddamcaniaeth arall os yw hi'n cael ei gwrthbrofi.

Yr enw ar y weithdrefn hon, sef defnyddio arbrofi ac arsylwi i gynhyrchu tystiolaeth i ategu neu wrthbrofi damcaniaeth, yw'r broses empirig, hynny yw, ‘wedi’i seilio ar arsylwi neu arbrofi’.

Nid yw damcaniaethau a gafodd eu datblygu a'u hategu fel hyn o reidrwydd yn parhau i fod yn dderbyniol am byth. Os yw arsylwadau newydd yn digwydd, neu os yw data newydd yn dod i’r fei sy’n gwrthbrofi’r ddamcaniaeth, rhaid dechrau’r broses empirig eto gyda rhagdybiaeth newydd.