Defnyddir llythrennau mewn algebra yn lle rhifau anhysbys, gan roi termau algebraidd i ni, megis 2x. Wrth gyfuno termau algebraidd trwy weithrediadau mathemategol fel + neu - cawn fynegiad algebraidd.
Cofia y gelli di gyfuno unrhyw derm sy'n cynnwys yr un cyfuniadau o lythrennau drwy adio a thynnu.
Felly,
\[{3g} + {2k} + {5g} + {4k} - {g}\]
\[= {3g} + {5g} - {g}+ {2k} + {4k}\]
\[= {7g} + {6k}\]
Symleiddia:
\[{3x} + {5} + {x}^{2} - {2x} + {2x}^{2} - {1}\]
Ad-drefna’r mynegiad fel bod y termau tebyg nesaf at ei gilydd:
\[{x}^{2} + {2x}^{2} + {3x} - {2x} + {5} - {1}\]
Ac wedyn symleiddia:
\[{3x}^{2} + {x} + {4}\]
Fel arfer byddwn yn ysgrifennu’r mynegiad â’r term \({x}^{2}\) yn gyntaf, wedyn y term \({x}\) ac yn olaf y term rhif.
Symleiddia:
\[{5} + {4x}^{2} - {3} + {2x} + {x}^{2} - {4x}\]
I gael yr ateb, ad-drefna’r mynegiad:
\[{4x}^{2} + {x}^{2} + {2x} - {4x} + {5} - {3}\]
ac wedyn symleiddia:
\[{5x}^{2} - {2x} + {2}\]