Defnyddir llythrennau mewn algebra yn lle rhifau anhysbys, gan roi termau algebraidd i ni, megis 2x. Wrth gyfuno termau algebraidd trwy weithrediadau mathemategol fel + neu - cawn fynegiad algebraidd.
Felly mae \({9b},~{-7b}\) ac \({13b}\) yn dermau tebyg, ond mae \({6t},~{5x}\) a \({-11z}\) yn dermau annhebyg.
Symleiddio ydy’r enw ar gyfer adio a thynnu termau tebyg.
Mae’r teulu Morris a’r teulu Jones yn mynd i’r sw gyda’i gilydd – mae \({8}\) plentyn a \({7}\) oedolyn yn y grŵp. Oherwydd bod mwy na \({10}\) ohonyn nhw, mae’r teuluoedd yn gallu manteisio ar gynnig arbennig – caiff \({1}\) plentyn fynediad am ddim.
Fel o'r blaen gallwn ddefnyddio \({g}\) i gynrychioli'r pris mynediad i blant, a \({k}\) i gynrychioli'r pris mynediad i oedolion.
Y gost i’r teulu Morris \(= {3g} + {3k}\)
Y gost i’r teulu Jones \(= {5g} + {4k}\)
Cynnig \(= - {g}\)
Cyfanswm y gost \(= {3g} + {3k} + {5g} + {4k} - {g}\)
Wedi ei symleiddio \(= {3g} + {5g} - {g} + {3k} + {4k} = {7g} + {7k}\)
Mae term, fel rhif, yn perthyn i’r arwydd sy’n eistedd o’i flaen. Felly yn y mynegiad \({2k} - {g}\), mae \({g}\) yn perthyn i’r arwydd - sy’n eistedd o’i flaen, felly mae’n \(- {g}\); ac mae \({2k}\) yn perthyn i’r arwydd + sy’n eistedd o’i flaen, felly mae’n \(+ {2k}\).
Cofia:
Casgla’r termau tebyg i gyd at ei gilydd, ee gelli di ailysgrifennu’r mynegiad \({3g} + {2k} + {5g} + {4k} - {g}\) gyda phob \({g}\) a phob \({k}\) gyda’i gilydd: \({3g} + {5g} - {g} + {2k} + {4k}\)
Wrth adio neu dynnu termau, cadwa bob term gyda’i arwydd \(+\) neu \(-\).
Symleiddia \({4x} + {y} - {2x} + {6y}\).
Ail-ysgrifenna’r mynegiad drwy roi'r termau tebyg gyda’i gilydd.
Cofia gadw'r arwyddion plws a minws gyda’r termau maen nhw’n perthyn iddyn nhw.
\[{4x} + {y} - {2x} + {6y}\]
\[= {4x} - {2x} + {y} + {6y}\]
Symleiddia hwn i gael:
\({2x} + {7y}\).