Defnyddir llythrennau mewn algebra yn lle rhifau anhysbys, gan roi termau algebraidd i ni, megis 2x. Wrth gyfuno termau algebraidd trwy weithrediadau mathemategol fel + neu - cawn fynegiad algebraidd.
Mewn algebra, defnyddir llythrennau pan nad ydyn ni'n gwybod beth ydy'r rhifau (rhifau anhysbys).
Mae termau algebraidd, megis \({2s}\) neu \({8y}\), yn gadael yr arwyddion lluosi allan. Felly yn hytrach na \({2}\times{s}\), dylet ti ysgrifennu \({2s}\), ac yn lle \({8}\times{y}\) dylet ti ysgrifennu \({8y}\).
Mynegiad algebraidd ydy’r enw a roddir ar gyfres o rifau a llythrennau wedi eu huno â’i gilydd gan weithrediadau mathemategol megis \(+\) a \(-\).
Mae \({r} + {2s}\) yn golygu rhif anhysbys \({r}\), plws dau o’r rhif anhysbys \({s}\).
Cost mynediad i'r sw i blentyn ydy \({g}\) a'r gost i oedolyn ydy \({k}\).
a) Faint mae’n ei gostio i’r teulu Morris - \({3}\) plentyn a \({3}\) oedolyn – fynd i’r sw?
b) Ysgrifenna fynegiad algebraidd ar gyfer y gost i’r teulu Jones - \({5}\) plentyn a \({4}\) oedolyn - fynd i’r sw.
a) \(Cost~i~3~plentyn = {3g}\)
\[Cost~i~3~oedolyn = {3k}\]
\[Cyfanswm~y~gost = {3g} + {3k}\]
b) \({5g} + {4k}\)