Mae tirffurfiau mawr yn cynnwys pentiroedd/baeau, traethau, clogwyni, bwâu, staciau, tafodau a llyfndir tonnau. Mae tirffurfiau bach yn cynnwys pyllau glan môr a rhiciau tonnau.
Mae’r broses erydiad yn gallu creu gwahanol dirffurfiau mawr ar hyd y forlin.
Nid yw clogwyni ar hyd y forlin yn erydu ar yr un cyflymder. Wal serth o graig yw clogwyn. Pan fydd darn o forlin wedi ei ffurfio o wahanol fathau o graig, gall pentiroedd a baeau ffurfio.
Mae bandiau o graig feddal fel clai a thywod yn wannach, felly’n gallu cael eu herydu’n gyflym. Mae’r broses hon yn ffurfio baeau. Cilfach fôr lle mae’r tir ar ffurf tro yw bae, ac fel arfer mae’n cynnwys traeth. Mae craig galed fel sialc yn fwy gwydn i brosesau erydiad. Pan mae’r graig feddalach yn cael ei herydu tuag at i mewn, mae’r graig galed yn ymestyn allan i’r môr, gan ffurfio pentir. Enghraifft o hyn yw Bae Saundersfoot yn Sir Benfro, a Phen Pyrod (Worm’s Head) ar arfordir Gŵyr, ger Abertawe.
Mae arweddau erydol fel llyfndiroedd tonnau a chlogwyni i’w gweld ar bentiroedd, gan eu bod yn fwy agored i’r tonnau. Mae baeau yn fwy cysgodol, ac mae’r tonnau adeiladol sydd yno yn dyddodi gwaddod i ffurfio traeth. Mae enghraifft ardderchog o lyfndiroedd tonnau i’w gweld ar Arfordir Treftadaeth Morgannwg ym Mhorthceri.
Mae clogwyni’n cael eu ffurfio drwy erydiad a hindreuliad. Mae craig feddal yn erydu’n gyflym ac yn ffurfio clogwyni â llethrau graddol, tra mae craig galed yn fwy gwydn ac yn ffurfio clogwyni serth. Llyfndir tonnau yw’r arwyneb creigiog llydan ar oleddf graddol sydd i’w weld wrth droed clogwyn.
(Cynnwys Saesneg)
Mae llyfndir tonnau’n cael ei ffurfio pan mae’r canlynol yn digwydd: