Agweddau yn y 16eg a’r 17eg ganrif

Ad-daledigaeth

Mae ad-daledigaeth yn golygu cosbi rhywun am drosedd gyfartal neu gyfatebol. Mae’n awgrymu bod dioddefwr yn gallu dial am drosedd drwy wneud i’r troseddwr ddioddef. Awydd pobl i ddial, neu chael ad-daledigaeth, am drosedd oedd y prif reswm fod cosbau yn bodoli hyd at ddechrau’r 19eg ganrif.

Roedd hon yn agwedd allweddol mewn perthynas â chosbau corfforol a’r gosb eithaf o’r 16eg ganrif i’r 19eg ganrif. Roedd yr holl gosbau yn rhoi ad-daledigaeth oherwydd y gorfodwyd troseddwyr i ddioddef poen, sarhad, ac yn aml marwolaeth am eu troseddau.

Ataliaeth

Mae ataliaeth yn golygu annog pobl i beidio â chyflawni trosedd drwy achosi iddyn nhw ofni’r canlyniadau. Gwneir hynny’n aml drwy wneud i’r cosbau fod yn llym ac amhleserus.

curriculum-key-fact
Ystyriwyd mai'r ffordd orau i atal pobl rhag droseddu drwy gydol y 16eg, 17eg a 18fed ganrif oedd drwy cosbau llym.

Cosbi

Ad-daledigaeth ac ataliaeth oedd y prif agweddau tuag at gosbi yn y 16eg a’r 17eg ganrif. Roedd hynny’n arwain at gosbau llym, a’r troseddwyr yn dioddef poen, sarhad neu farwolaeth.

Y gosb eithaf

Yn oes y Tuduriaid a’r Stiwartiaid defnyddiwyd y gosb eithaf i gosbi troseddau difrifol. Y dull mwyaf cyffredin o ddienyddio oedd crogi. Byddai crogi yn arwain ar farwolaeth drwy lindagu, ac yn aml roedd hynny’n cymryd nifer o funudau.

Roedd dulliau eraill o ddienyddio yn cynnwys llosgi i farwolaeth, ac roedd hon yn bennaf yn gosb ar gyfer heresi.

Llun o dorf wedi ymgasglu o gwmpas dau ddyn yn cael eu llosgi wrth y stanc.
Cafodd yr esgobion Protestanaidd Hugh Latimer a Nicholas Ridley eu llosgi i farwolaeth yn ystod teyrnasiad Mari I

Y dull dienyddio ar gyfer teyrnfradwriaeth oedd torri pen, neu grogi, diberfeddu a phedrannu. Torrwyd pennau aelodau o’r teulu brenhinol, fel arfer gyda bwyell. Byddai tir ac arian y bradwr yn cael ei feddiannu gan y frenhiniaeth.

Yn y 16eg a’r 17eg ganrif roedd pobl yn cefnogi’r gosb eithaf oherwydd bod hynny'n bodloni eu dyhead am ad-daledigaeth, ac roedd hefyd yn ataliaeth i eraill.

Cosb gorfforol

Torlun pren o bedwar dyn mewn rhigod. Mae tri yn eistedd ac yn un yn gorwedd ar ei gefn. Mae ffigwr adeiniog yn sefyll yn y cefndir.
Torlun pren yn darlunio math o gosb Elisabethaidd, cyffion, o’r 16eg ganrif

Defnyddiwyd amryw o gosbau corfforol hefyd yn y 16eg a’r 17eg ganrif. Roedd cyffion a rhigod yn cael eu defnyddio’n aml i sarhau troseddwyr ac i achosi poen iddyn nhw. Defnyddiwyd fflangellu hefyd. Yn gynharach yn y cyfnod defnyddiwyd anffurfio a gwarthnodi hefyd.

Yn aml, os byddai menywod yn dweud y drefn wrth eu gŵyr, bydden nhw’n cael eu cosbi ar gadair drochi mewn afon neu bwll yn yr ardal, neu’n cael eu tywys o gwmpas y dref yn gwisgo Ffrwyn Cecren, neu Ffrwyn y Dafodwraig, sef cawell haearn trwm ar gyfer y pen a haearn tafod yn y geg. Mae’r ffaith fod cosb wahanol yn cael ei rhoi i ferched yn adlewyrchu statws merched a’r agweddau tuag atynt yn y cyfnod modern cynnar.

Mae’r dulliau hyn o gosb eithaf a chosb gorfforol yn dangos bod awydd yn ystod Oes y Tuduriaid a’r Stiwartiaid i godi cywilydd ar dioddefwr a gwneud cosbau’n greulon o llym, a hynny i atal pobl rhag troseddu ac fel ffordd o ddial.