Awdurdod a stiwardiaeth

Stiwardiaeth

Mae Iddewiaeth yn dysgu bod rhaid i fodau dynol gymryd cyfrifoldeb amgylcheddol dros y byd a roddodd Duw iddynt. Y term am y syniad hwn o ofalu am y byd a phopeth ynddo am genedlaethau i ddod ar ein hôl yw stiwardiaeth. Mae Iddewon yn dilyn y mitzvot, sy’n rhoi llawer o orchmynion ynglŷn â gofalu am y byd, er enghraifft:

  • peidio byth â dinistrio pethau ar y Ddaear sy’n ddefnyddiol
  • rhoi seibiant i’r tir o dyfu cnydau bob 50 mlynedd

Awdurdod

Mae Iddewon yn credu hefyd fod ganddynt awdurdod dros y byd. Dyma’r syniad fod Duw wedi rhoi rheolaeth i fodau dynol dros natur. Gellir gweld y ddysgeidiaeth am awdurdod yn Genesis 1 yn y Torah lle dywedir:

quote
Llywodraethwch ar bysgod y môr, ar adar yr awyr, ac ar bopeth byw sy’n symud ar y ddaearGenesis 1:28
curriculum-key-fact
Mae Iddewon yn credu bod ganddynt gyfrifoldeb i ofalu am y byd gan eu bod yn stiwardiaid ar ran Duw. Maen nhw’n credu hefyd fod Duw wedi rhoi’r cyfrifoldeb iddynt gael rheolaeth dros natur, sef awdurdod.

Tikkun olam

Dysgeidiaeth yw’r term Iddewig tikkun olam i atgyweirio’r byd. Ei bwrpas yw ysbrydoli’r gymuned Iddewig i ofalu am y byd mewn unrhyw fodd y gallant. Gallent wneud hyn drwy sicrhau nad ydym yn disbyddu adnoddau naturiol drwy fyw’n gynaliadwy. Gallai hyn gynnwys:

  • ailgylchu
  • codi sbwriel
  • dewis cerdded yn lle gyrru lle bo’n bosibl
  • diffodd goleuadau pan nad oes neb yn yr ystafell

Bal tashchit

Mae Tikkun olam hefyd yn gysylltiedig â’r term Iddewig bal tashchit, sy’n golygu ‘peidiwch â dinistrio’. Mae’r ddysgeidiaeth hon i’w chael yn y Torah.

quote
Pan fydd tref dan warchae gennyt… paid â difa ei choed trwy eu torri â bwyellDeuteronomium 20:19

Gemilut hasadim

Yn ogystal â gofalu am y byd a’i adnoddau naturiol mae pwyslais yn Iddewiaeth ar ofalu am ein gilydd. Enw’r gorchymyn hwn yw gemilut hasadim, sy’n cyfeirio at weithredoedd o garedigrwydd cariadus, nid dim ond tuag at yr amgylchedd ond tuag at ein gilydd. Dyma ffyrdd o gyflawni hyn:

  • bod yn garedig wrth eraill
  • helpu eraill sydd mewn angen
  • bod yn haelfrydig
  • bod yn hael

Cyfeirir at hyn yn aml fel bod yn ddinesydd byd-eang.

Honi a’r Goeden Garob

Yn stori Honi a’r Goeden Garob, mae dyn o’r enw Honi yn gweld dyn arall yn plannu coeden garob. Mae’n gofyn pa mor hir y mae’n meddwl y cymer i’r goeden ddwyn ffrwyth, ac mae’r dyn yn ateb y gwnaiff gymryd rhyw 70 mlynedd. Wedyn mae Honi’n gofyn a ydyw’n meddwl y bydd yn fyw i fwyta’r ffrwythau o’r goeden. Mae’r dyn yn ateb, efallai na fydd ef yn fyw mewn 70 mlynedd, ond mae yntau wedi bwyta ffrwythau a blannwyd gan ei dad a’i daid. Trwy blannu coed nawr bydd ei blant a’i wyrion yntau’n gallu bwyta’r ffrwythau o’r goeden.

Tu B'Shevat

Tu B'Shevat yw’r flwyddyn newydd Iddewig i goed. Mae’n un o’r pedair blwyddyn newydd Iddewig, sydd hefyd yn cael ei galw’n Rosh Hashanah. Ar Tu B'Shevat, bydd Iddewon yn aml yn bwyta ffrwythau cysylltiedig â’r Wlad Sanctaidd, yn enwedig y rhai sy’n cael eu henwi yn y Torah. Bydd rhai Iddewon yn plannu coed ar y diwrnod hwn, neu’n casglu arian tuag at blannu coed yn Israel.

Question

Disgrifiwch y credoau Iddewig am stiwardiaeth.

Mae Iddewon yn rhoi pwys mawr ar stiwardiaeth. Maen nhw’n credu bod ganddyn nhw ddyletswydd i ofalu am y byd a greodd Duw iddynt er mwyn y cenedlaethau a ddaw. Byddant yn dilyn dysgeidiaeth tikkun olam sy’n golygu ‘atgyweirio’r byd’ a bal tashchit sy’n golygu ‘paid â difetha’. Maen nhw hefyd yn dathlu Tu B’Shevat, gan blannu coed newydd a bwyta ffrwythau. Mae sawl dysgeidiaeth yn y Torah am stiwardiaeth, a bydd Iddewon yn ceisio dilyn y rhain drwy sicrhau y gofalir am y byd.

Move on to Test
next