Mae’r broses ymchwil yn bwysig. Mae’n ymwneud â ffurfio cwestiynau ymchwil addas, casglu data cynradd ac eilaidd priodol a dadansoddi gwybodaeth ar gyfer adroddiad ysgrifenedig.
Er bod ymchwil yn cymryd amser a llawer o ymdrech, mae hi'n broses werthfawr ac yn gallu rhoi llawer o foddhad.
Mae ymchwilwyr yn dilyn proses wrth wneud ymchwil.