Mitosis

Mae cromosomau yn cario gwybodaeth enetig mewn moleciwl a elwir yn DNA. Maent i’w cael mewn parau yng nghnewyllyn y gell, ac maent yn drefniant llinol o enynnau. Mae genynnau’n bodoli mewn parau hefyd, ac mae pob genyn yn creu cod sy’n gwneud protein penodol.

Math o gellraniad yw mitosis sy’n sicrhau, pan fydd cell yn rhannu, fod pob cell newydd a gynhyrchir yn cynnwys yr un wybodaeth enetig.

Diagram o gnewyllyn gyda darlun agosach o enyn sy’n dangos y cromosom

Mae pob cell yn y corff dynol yn cynnwys 46 cromosom. Gellir trefnu’r rhain yn 23 pâr. Mae’r ddau gromosom mewn pâr yn cario’r un mathau o enynnau.

Cellraniad

Bydd celloedd yn rhannu:

  • pan fydd organeb yn tyfu
  • pan fydd angen i organebau adnewyddu celloedd sydd wedi treulio
  • pan fydd angen i organebau drwsio meinwe sydd wedi’i niweidio

Yn ystod y prosesau hyn, aiff y gell drwy fath o gellraniad o’r enw mitosis.

Diagram cam wrth gam sy’n dangos cellraniad. Wrth ddyblygu, mae'r DNA yn creu dau gopi o bob cromosom. Mae'r gell yn gwahanu ac yn rhannu’n ddwy gell sydd union yr un fath

Mewn mitosis, cynhyrchir dwy gell a elwir yn epilgelloedd. Mae’n hanfodol fod unrhyw epilgelloedd newydd a gynhyrchir yn cynnwys gwybodaeth enetig sy’n union yr un fath ag eiddo’r famgell, a bod nifer y cromosomau’n aros yn gyson.

Canser

Bydd celloedd yn tyfu ac wedyn yn rhannu trwy fitosis dim ond pan fydd arnom angen rhai newydd – un ai wrth i ni dyfu, neu pan fydd angen adnewyddu celloedd sy’n hen neu wedi’u niweidio.

Pan fydd cell yn troi’n ganseraidd, mae’n dechrau tyfu a rhannu’n afreolus. Cynhyrchir celloedd newydd hyd yn oed os nad oes ar y corff eu hangen.

Bydd grŵp o gelloedd canseraidd yn cynhyrchu tyfiant a elwir yn diwmor.

Beth sy’n achosi canser?

Carsinogenau yw’r enw ar gemegau a chyfryngau eraill sy’n gallu achosi canser. Bydd carsinogenau’n achosi canser drwy niweidio DNA sy’n gallu peri i fwtaniadau ddigwydd. Ni fydd un mwtaniad unigol yn achosi canser – mae angen llawer ohonynt. Am y rheswm hwn, rydym yn fwy tebygol o ddatblygu canser wrth i ni heneiddio.

Mae rhai ffactorau genetig sy’n cynyddu’r tebygolrwydd o ddatblygu rhai canserau. Ffactor risg yw’r term am rywbeth sy’n cynyddu’r tebygolrwydd o ddatblygu clefyd. Mae sawl ffactor risg ar gyfer gwahanol fathau o ganser.

Ffactorau ffordd o fyw

  • Firysau a gysylltir â chanser, fel y firws papiloma dynol (HPV), yn cael eu lledaenu o berson i berson drwy gyfathrach rywiol.
  • Y carsinogenau cemegol ym mwg sigaréts yn cynyddu’r risg o ganser ar yr ysgyfaint.
  • Mae yfed alcohol yn cael ei gysylltu â rhai canserau.
  • Derbyn pelydriad uwchfioled, a rhan ohono’n belydriad ïoneiddio, wrth dorheulo neu fod allan yn yr awyr agored, a hynny’n arwain at ddatblygu canser y croen.
  • Gall deiet gwael gyda gormod o fraster a halen, yn ogystal â bwyta rhai bwydydd penodol, gynyddu’r risg o ganser.

Ffactorau diwydiannol ac amgylcheddol

  • Mae derbyn pelydriad ïoneiddio, fel y pelydriad uwchfioled yng ngolau’r haul, yn cynyddu’r ffactor risg.
  • Derbyn carsinogenau cemegol fel y rhai a geir ym mwg sigaréts.