Mae’n bosibl amrywio’r amodau ac ymchwilio i’r canlyniadau.
Mae’n bosibl ymchwilio i sefyllfaoedd tyngedfennol heb risg.
Mae’n gost-effeithiol.
Mae’n bosibl cyflymu efelychiadau felly mae’n hawdd astudio ymddygiad dros gyfnod hir.
Mae’n bosibl arafu efelychiadau er mwyn astudio ymddygiad yn fanylach.
Anfanteision
Gall fod yn gostus i fesur sut mae un peth yn effeithio ar rywbeth arall, i gymryd y mesuriadau cychwynnol ac i greu’r model ei hun (er enghraifft twneli gwynt aerodynamig).
Er mwyn efelychu rhywbeth, mae angen dealltwriaeth drylwyr ac ymwybyddiaeth o’r holl ffactorau. Heb hyn, nid yw’n bosibl creu efelychiad.