Mae defnydd cynyddol o TGCh i’w weld mewn sefydliadau o bob math, ar gyfer adwerthu, masnach, bancio a systemau arbenigol.
Rhaglen sydd wedi’i chynllunio er mwyn efelychu sefyllfa go iawn yw efelychiad cyfrifiadurol. Enghraifft o efelychiad cyfrifiadurol yw meddalwedd sy’n efelychu’r profiad o hedfan awyren.
Mae meddalwedd efelychu syml sy’n rhedeg ar gyfrifiadur personol yn cynnig adloniant i’r defnyddiwr a chyfle i ymarfer defnyddio rheolyddion syml a llywio.
Mae efelychydd hedfan go iawn – sy’n cael ei ddefnyddio i hyfforddi peilotiaid – yn llawer mwy soffistigedig, ac yn gostus iawn.
Mae’r peilot yn eistedd mewn caban pwrpasol. Mae’r caban wedi’i osod ar fframwaith sy’n cael ei reoli gan offer hydrolig. Mae’r offer hydrolig yn symud y caban ac yn rhoi’r teimlad bod rhywun mewn awyren go iawn. Mae synwyryddion yn canfod gweithrediadau’r peilot ac yn symud y caban yn unol â hynny. Mae delweddau wedi’u cynhyrchu gan gyfrifiadur i’w gweld yn lle’r olygfa o ffenestr y caban.
Mae efelychwyr hedfan yn sicrhau bod peilotiaid dan hyfforddiant yn cael profiad o:
Mae efelychwyr hedfan yn ddiogel ac yn gost-effeithiol. Does dim angen tanwydd a does dim angen talu i’r criw. Mae unrhyw ddifrod i’r awyren wedi’i efelychu, a dyw’r peilot byth mewn perygl.