Mae degolion yn chwarae rhan bwysig mewn bywyd bob dydd, yn enwedig wrth ddefnyddio arian. Felly, mae’n holl bwysig dy fod yn deall sut maen nhw’n gweithio a sut i’w defnyddio.
Cofia gadw’r pwyntiau degol yn union o dan ei gilydd yn y cwestiwn a’r ateb.
Cyfrifa \({4.05}\) wedi ei rannu â \({9}.\)
Cyfrifa \({2.4}\) wedi ei rannu â \({5}.\)
Weithiau mae angen ychwanegu un 0 neu fwy at ddiwedd rhif degol, fel yn yr enghraifft hon (mae 2.40 yr un fath â 2.4 felly mae’r cwestiwn yn aros yr un fath).