Mae degolion yn chwarae rhan bwysig mewn bywyd bob dydd, yn enwedig wrth ddefnyddio arian. Felly, mae’n holl bwysig dy fod yn deall sut maen nhw’n gweithio a sut i’w defnyddio.
Mae lluosi rhif degol â rhif cyfan yn debyg i luosi dau rif cyfan, ond rhaid i ti gofio:
Cyfrifa:
\[{2.43}\times{7}\]
Roedd dau ddigid ar ôl y pwynt degol yn y cwestiwn (\({4}\) a \({3}\)), felly rhaid i ti gael dau ddigid ar ôl y pwynt degol yn yr ateb.
Cyfrifa:
\[{2.4}\times{5}\]
Roedd un digid ar ôl y pwynt degol yn y cwestiwn, felly rhaid i ti gael un digid ar ôl y pwynt degol yn yr ateb. Yr ateb felly ydy \({12.0}\), ond wedyn gelli di ysgrifennu hyn fel \({12}\).
Yn yr enghraifft uchod roedd gofyn i ti gyfrifo \({2.4}\times{5}\).
\({2}\times{5} = {10}\), felly rwyt ti’n edrych am ateb sydd ychydig yn fwy na \({10}\). Felly mae \({12}\) i’w weld yn ateb synhwyrol.