Mae degolion yn chwarae rhan bwysig mewn bywyd bob dydd, yn enwedig wrth ddefnyddio arian. Felly, mae’n holl bwysig dy fod yn deall sut maen nhw’n gweithio a sut i’w defnyddio.
Wrth rannu â \({10}\), bydd pob ffigur yn symud un lle i’r dde. Bydd cannoedd yn mynd yn ddegau, degau’n mynd yn unedau, unedau’n mynd yn ddegfedau a degfedau’n mynd yn ganfedau.
Wrth rannu â \({100}\), bydd pob ffigur yn symud dau le i’r dde.
Wrth rannu â \({1,000}\), bydd pob ffigur yn symud tri lle i’r dde.