Wrth wneud ymchwiliad, bydd angen i ti gasglu a chofnodi data y gelli di dynnu casgliadau ohonyn nhw. Dysga fwy am y gwahanol ffyrdd o gasglu, cofnodi, trefnu a dehongli’r data.
Pan fydd nifer fawr o ganlyniadau posibl, fel arfer bydd angen i ti grwpio’r data. I wneud hyn, penderfyna’n gyntaf ar dy ddosbarthiadau ar sail yr amrediad o atebion posibl.
Rwyt ti’n cynnal arolwg i ganfod nifer y cylchgronau a gafodd eu prynu gan dy gyd-ddisgyblion yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Mae’r atebion posibl yn debygol o fynd o \({0}\) i \({100}\), felly gallet ti lunio siart marciau rhifo sy’n grwpio mewn modd tebyg i’r siart isod:
Mae tabl amlder sydd wedi ei gwblhau yn cael ei alw’n dabl amlder wedi ei grwpio.