Wrth wneud ymchwiliad, bydd angen i ti gasglu a chofnodi data y gelli di dynnu casgliadau ohonyn nhw. Dysga fwy am y gwahanol ffyrdd o gasglu, cofnodi, trefnu a dehongli’r data.
Mae defnyddio’r system marciau rhifo i gofnodi dy ganlyniadau’n gyflymach nag ysgrifennu geiriau neu ffigurau drwy’r amser.
Os wyt ti’n cofnodi dy ganfyddiadau mewn siart marciau rhifo, mae’r data wedi ei gasglu’n grwpiau’n barod, ac ni fydd angen i ti eu grwpio nes ymlaen.
I ymchwilio lliw mwyaf poblogaidd y ceir sy’n mynd heibio dy dŷ, mae’n haws gwneud marciau rhifo o dan un o bum pennawd nag ydy hi i ysgrifennu coch, glas, arian, arian, coch, arall, du, ayyb.
Os wyt ti’n defnyddio siart marciau rhifo, gallet ti nodi lliwiau’r ceir wrth iddyn nhw basio, a chanfod cyfanswm amlder pob lliw ar ddiwedd y cyfnod o awr.