Wrth wneud ymchwiliad, bydd angen i ti gasglu a chofnodi data y gelli di dynnu casgliadau ohonyn nhw. Dysga fwy am y gwahanol ffyrdd o gasglu, cofnodi, trefnu a dehongli’r data.
Mae marciau rhifo’n ffordd o gyfrif sy’n defnyddio grwpiau o bump.
Gelli di gofnodi dy ganlyniadau mewn siart marciau rhifo, fel hyn:
Fel rwyt ti’n gallu ei weld, mae defnyddio grwpiau o bump yn ei gwneud hi’n haws gweld y cyfanswm.