ymholiadau AND/OR/NOT

Mae rhaglenni fel Microsoft Access yn defnyddio iaith holi i leihau canlyniadau chwiliadau. Gall ymholiad edrych ar fwy nag un maes.

Rhif cofrestruGwneuthuriadModelDyddiad cofrestruPrisWedi’i drethu
R623 PHMFordFiesta0101986800D
P887 LHWRover2000103977500D
X842 PLDFordMondeo0101968100N
P812 WHJPeugeot4060109967000N
T419 PCPCitroenC40109996000D

Dyma restr o dermau cyffredin sy’n cael eu defnyddio mewn iaith holi. Mae’r enghreifftiau’n seiliedig ar y tabl:

  1. AND – yn cael ei ddefnyddio i ganfod pob cofnod lle mae’r car o wneuthuriad Ford a hefyd lle mae’r pris yn llai nag 8000. Byddai hyn yn dychwelyd y Fiesta ond nid y Mondeo.
  2. OR – yn cael ei ddefnyddio i ganfod pob cofnod lle mae’r car o wneuthuriad Ford neu o wneuthuriad Rover. Dim ond y Ford Fiesta, y Ford Mondeo a’r Rover 200 fyddai’n cael eu dangos.
  3. NOT – yn cael ei ddefnyddio i ddychwelyd pob cofnod lle nad yw’r car o wneuthuriad Citroen. Byddai hyn yn dychwelyd pob cofnod ar wahân i’r Citroen C4.

Mewn iaith holi, byddai’r enghreifftiau hyn yn edrych yn debyg i hyn:

  1. [Gwneuthuriad] = "Ford" AND [Pris] < 8000
  2. [Gwneuthuriad] = "Ford" OR [Gwneuthuriad] = "Rover"
  3. [Gwneuthuriad] = NOT "Citroen"
Esboniad o broses ymholi sy’n defnyddio ‘and’ ‘or’ ‘not’. Mae rhidyllau’n cael eu defnyddio i hidlo canlyniadau ceir.