Mae trosedd yn realiti ym mhob cymdeithas. Mae llawer o Iddewon yn credu os bydd person yn torri un o'r Deg Gorchymyn, yna dylai cymdeithas ei gosbi, yn union fel y bydd yn cael ei gosbi gan Dduw.
Mae sawl theori sy’n egluro pam fod pobl yn troseddu, ond ar y cyfan mae cytundeb ar sut y mae pobl yn dod yn droseddwyr. Mae ymddygiad troseddol yn ffitio i un, neu fwy nag un, o’r categorïau hyn:
Mae pobl yn cael eu cosbi am reswm. Yn aml iawn mae amcanion cosb yn gorgyffwrdd, ee mae’r gosb eithaf yn ceisio amddiffyn y cyhoedd rhag unigolyn a gyflawnodd drosedd penodol ac atal eraill rhag gwneud yr un peth. Mae gan gosbi chwech o amcanion cydnabyddedig: