Tywydd peryglus – diwasgedd

Mae dau fath gwahanol o systemau gwasgedd yn dod â gwahanol fathau o dywydd i'r DU. Diwasgedd a gwrthseiclonau yw’r rhain. Ar adegau, gall y tywydd sy’n gysylltiedig â'r ddwy system dywydd yma fod yn beryglus iawn.

Diwasgedd

Ardal o wasgedd atmosfferig isel yw diwasgedd. Mae aer sy’n codi yn achosi i gymylau ffurfio, sy’n arwain at law. Mae diwasgedd yn aml yn symud tua'r dwyrain ar draws y DU, gan ddod â thywydd cyfnewidiol wrth iddo deithio. Mae’r diagram isod yn dangos y tywydd cyfnewidiol mae ffryntiau cynnes ac oer yn eu cyflwyno wrth iddyn nhw symud tua'r dwyrain.

Ceir glaw lle bo ffryntiau oer a ffryntiau cynnes. Mae’r ardal rhwng ffryntiau yn glir ac yn sych.

Astudiaeth achos – Llifogydd Cymbria, 2015

Ym mis Rhagfyr 2015, torrodd Storm Desmond record newydd wrth i 341.4 mililitr o law ddisgyn mewn 24 awr. Arweiniodd hyn at lifogydd yn ardal Cymbria ac yn enwedig yn nhref Cockermouth, er gwaetha’r rhwystr llifogydd sy’n cau ei hun a gafodd ei adeiladu yn 2013.

Achosion ffisegol

Cafwyd glaw tirwedd dros Fynyddoedd Cymbria oherwydd yr aer cynnes o ganol Cefnfor Iwerydd. Po gynhesaf yw’r aer, y mwyaf o leithder mae’n ei ddal.

Cafodd aer cynnes o ganol Cefnfor Iwerydd ei wthio i fyny Mynyddoedd Cymbria gan y prifwyntoedd. Wrth i'r aer oeri, cyddwysodd a ffurfio glaw trwm, a lifodd i Afon Derwent ac Afon Cocker.
  1. Cafodd aer cynnes o ganol Cefnfor Iwerydd ei symud tuag at y tir gan y prifwynt.
  2. Cafodd yr aer ei wthio am i fyny gan Fynyddoedd Cymbria.
  3. Wrth i'r aer oeri, cyddwysodd a ffurfio glaw trwm. Arhosodd y ffrynt tywydd dros ardal Cymbria.
  4. Llifodd y glaw i Afon Derwent ac Afon Cocker.
  5. Mae tref Cockermouth yn y man lle mae’r afonydd yn cydlifo ac arweiniodd hynny at lifogydd trwm.

Canlyniadau

Wrth ddadansoddi effeithiau trychinebau naturiol, mae’n bwysig eu rhannu i dri maes.

  1. Cymdeithasol – yr effaith ar bobl a chymunedau.
  2. Economaidd – yr effaith ar swyddi, isadeiledd cludiant, busnesau ac economïau lleol a chenedlaethol.
  3. Amgylcheddol – yr effaith ar fywyd gwyllt, cynefinoedd, llystyfiant a dŵr.

Cymdeithasol

  • Cafodd y cyflenwad pŵer ei dorri mewn dros 43,000 o gartrefi ledled Cymbria a Sir Gaerhirfryn.
  • Cafodd y llifogydd effaith ar oddeutu 5,200 o gartrefi.
  • Bu farw un person yn ardal Cymbria.
  • Bu’n rhaid i 40 o ysgolion gau yn adral Cymbria.

Economaidd

  • Amharwyd ar wasanaethau ar y ffyrdd a'r rheilffyrdd.
  • Dioddefodd nifer o fusnesau oherwydd difrod i eiddo a stoc.
  • Amcangyfrifwyd bod y gost ledled Cymbria yn £500 miliwn. Rhoddodd y llywodraeth £50 miliwn i bobl a busnesau a wnaeth ddioddef o ganlyniad i'r llifogydd.
  • Rhagfynegwyd y byddai cwmnïau yswiriant yn talu hyd at £325 miliwn i breswylwyr a busnesau.

Amgylcheddol

  • Cafodd yr afonydd eu newid yn sylweddol, gyda’r cyfraddau erydu yn cynyddu.
  • Cafodd maethynnau eu golchi o’r pridd gan y glaw trwm.
  • Cafodd llystyfiant ei foddi, a arweiniodd at golli cynefinoedd.
Stryd dan ddŵr. Ceir wedi eu difrodi yn y tu blaen a’r dŵr i fyny at eu ffenestri.
Daeth afon Derwent dros ei glannau yn 2009 ac yn 2015, gan achosi llifogydd i lawer o gartrefi a busnesau yn Cockermouth