Beth am ddilyn y cyfarwyddiadau yn y canllaw astudio hwn a rhoi cynnig ar rai o’r lluniadau hyn dy hun? Bydd angen pensel, pren mesur, cwmpas a phapur arnat ti.
Mae buwch wedi ei chlymu wrth bostyn â rhaff \({4}~m\) o hyd. Mae’n cerdded o gwmpas y postyn â’r rhaff wedi ei thynnu’n dynn.
Mae llwybr y fuwch yn gylch â radiws \({4}~m\).
Mae llwybr y fuwch yn cael ei alw’n locws.
Locysau ydy mwy nag un locws.