Beth am ddilyn y cyfarwyddiadau yn y canllaw astudio hwn a rhoi cynnig ar rai o’r lluniadau hyn dy hun? Bydd angen pensel, pren mesur, cwmpas a phapur arnat ti.
Ymarfera’r lluniad hwn nes gelli di ei wneud heb edrych ar y cyfarwyddiadau.
Lluniadu hanerydd ongl
Gan osod dy gwmpas ar y pwynt lle mae’r llinellau’n cwrdd, tynna arc sy’n croesi’r ddwy linell.
Gan osod dy gwmpas ar bwynt A, tynna arc tuag at y canol.
Heb newid y pellter rhwng y cwmpas a’r bensil, gosoda’r cwmpas ar bwynt B a gwneud yr un peth, gan wneud yn siŵr fod y ddwy arc yn croesi.
Yn olaf, gan ddefnyddio dy bren mesur, cysyllta bwynt C â phwynt V.