Beth am ddilyn y cyfarwyddiadau yn y canllaw astudio hwn a rhoi cynnig ar rai o’r lluniadau hyn dy hun? Bydd angen pensel, pren mesur, cwmpas a phapur arnat ti.
Os ydy dwy linell yn cael eu tynnu ar ongl sgwâr i’w gilydd, rydyn ni’n dweud eu bod yn berpendicwlar.
Enw llinell sy’n cael ei thynnu i dorri llinell arall neu ongl yn ei hanner ydy hanerydd.
Llwybr pwynt sy’n symud yn ôl rheol arbennig ydy locws. Locysau ydy mwy nag un locws.