Mae data’n cael eu defnyddio i ddangos gwybodaeth ddaearyddol yn aml. Mae gallu defnyddio mesurau data, gwneud cyfrifiadau ac archwilio perthnasoedd yn sgìl ddaearyddol hanfodol.
Mae cyfrifo canran cynnydd yn sgìl bwysig i ddaearyddwyr. Pan fydd daearyddwyr yn casglu data dros gyfnod mae’n bosibl y bydd y canlyniadau’n cynyddu. Drwy gyfrifo canran y cynnydd gall daearyddwr weld faint mae ei ddata wedi newid. Er enghraifft, efallai y byddai’n ddefnyddiol i ni ganfod faint mae lled sianel afon yn ei gynyddu wrth i ni deithio i lawr yr afon.
Er enghraifft, rydym yn cyfrif nifer y robinod coch mewn ardal goediog mewn dau fis gwahanol. Ym mis Rhagfyr cafodd 15 robin eu cyfrif. Ym mis Ionawr cafodd 23 robin eu cyfrif. Beth yw canran y cynnydd yn nifer y robinod yn y coetir?
Mae cyfrifo canran lleihad hefyd yn sgìl ddefnyddiol. Er enghraifft, efallai y byddai’n ddefnyddiol canfod faint mae maint gronynnau llwyth yn ei leihau mewn afon wrth i ni deithio i lawr yr afon.
Er enghraifft, rydym yn cyfrif nifer y robinod coch mewn coetir ym mis Chwefror ac ym mis Mawrth. Ym mis Chwefror cafodd 22 robin eu cyfrif. Ym mis Mawrth cafodd 12 robin eu cyfrif. Beth yw canran y lleihad yn nifer y robinod yn y coetir?