Mae gan amser wahanol unedau. Mae gwybod sut i fesur amser yn ddefnyddiol gan ei fod yn help i wybod pryd mae dy hoff raglen ar y teledu, neu sawl diwrnod sydd mewn mis.
Defnyddia’r rhigwm hwn i dy helpu i gofio sawl diwrnod sydd ym mhob mis:
\({30}\) diwrnod yw rhifedi
Mehefin, Ebrill, Tachwedd, Medi.
Yn saith o’r lleill mae un yn rhagor,
ond \({28}\) sydd ym mis Chwefror,
a chyfrif un yn fwy sy'n rhaid
pan fydd hi yn flwyddyn naid!
Os mai dydd Mawrth ydy’r \({28}^{ain}\) o Fawrth, pa ddiwrnod ydy’r \({6}^{ed}\) o Ebrill yn yr un flwyddyn?
Mae \({31}\) o ddiwrnodau ym mis Mawrth.
Maw | Mer | Iau | Gwe | Sad | Sul | Llun |
---|---|---|---|---|---|---|
\[{28}\] | \[{29}\] | \[{30}\] | \[{31}\] | \[{1}\] | \[{2}\] | \[{3}\] |
\[{4}\] | \[{5}\] | \[{6}\] |
Trwy gyfrif trwy’r dyddiau gelli di weld mai dydd Iau fydd y \({6}^{ed}\) o Ebrill.
Mae \({365}\) o ddiwrnodau mewn blwyddyn. Felly mae \({366}\) mewn blwyddyn naid, sef diwrnod ychwanegol ym mis Chwefror. Bydd blwyddyn naid yn digwydd bob pedair blynedd, ac mae modd ei rhannu â \({4}\) a chael rhif cyfan, er enghraifft:
Roedd \({1996}\) yn flwyddyn naid achos \({1996}\div{4} = {499}\).
Doedd \({1934}\) ddim yn flwyddyn naid achos \({1934}\div{4} = {483.5}\).