Mae gan amser wahanol unedau. Mae gwybod sut i fesur amser yn ddefnyddiol gan ei fod yn help i wybod pryd mae dy hoff raglen ar y teledu, neu sawl diwrnod sydd mewn mis.
Rydyn ni’n defnyddio naill ai’r cloc \({12}\) awr neu’r cloc \({24}\) awr i fesur amser.
Mae nodiant cloc \({12}\) awr yn defnyddio am a pm (neu yb ac yh) i nodi’r bore a’r prynhawn neu’r hwyr.
Ystyr \({6.23}am\) ydy \({23}\) munud wedi \({6}\) yn y bore.
Ystyr \({7.45}am\) ydy chwarter i \({8}\) yn y bore.
Gyda’r cloc \({24}\) awr does dim angen defnyddio \({am}\) na \({pm}\). Dynodir y prynhawn gan rif sy’n fwy na \({12}\).
Bydd \({3.00}pm\) yn troi’n (\({3} + {12})\) = \({15.00}\).
Bydd \({5.46}pm\) yn troi’n (\({5.46} + {12}\)) = \({17.46}\).
Mae’r cloc \({24}\) awr bob amser yn defnyddio \({4}\) digid, felly i nodi unrhyw amser cyn \({10.00}\) rhoddir sero ar y dechrau.
Mae \({01.00}\) yn golygu \({1.00}am\).
Mae \({13.00}\) yn golygu \({1.00}pm\).
Mae \({04.00}\) yn golygu \({4.00}am\).
Mae \({16.00}\) yn golygu \({4.00}pm\).
Copïa a chwblha’r tabl canlynol, wedyn gwiria dy atebion.