Mae gan amser wahanol unedau. Mae gwybod sut i fesur amser yn ddefnyddiol gan ei fod yn help i wybod pryd mae dy hoff raglen ar y teledu, neu sawl diwrnod sydd mewn mis.
Mae’r wybodaeth isod yn dangos sut mae’r unedau rydyn ni’n eu defnyddio i fesur amser yn cymharu â'i gilydd.
\[{60}~{eiliad} = {1}~{munud}\]
\[{60}~{munud} = {1}~{awr}\]
\[{24}~{awr} = {1}~{diwrnod}\]
\[{7}~{diwrnod} = {1}~{wythnos}\]
\({365}~{diwrnod} = {1}~{flwyddyn}\) (\({366}\) diwrnod mewn blwyddyn naid)
a) Sawl munud sydd mewn \({6}\) awr?
b) Sawl awr sydd mewn wythnos?
c) Sawl wythnos sydd mewn \({63}\) diwrnod?
a) \({60}\times{6} = {360~munud}\).
b) \({24}\times{7} = {168~awr~mewn~un~wythnos}\).
c) \({63}\div{7} = {9~wythnos}\). Cofia, mae \({7}\) diwrnod mewn wythnos.
Mae \({0.5}~{awr} = {30}~{munud}\), nid \({50}~{munud}\). Y rheswm am hyn ydy bod degolion yn dangos ffracsiynau fesul degfed, canfed, milfed ran ayyb.
Ond, mae munudau yn cael eu mesur fesul \({60}^{fed}\) rhan o awr.
Felly, mae \(\frac{1}{4}~awr = {15~munud}\), ac \(\frac{1}{10}~awr = {6~munud}\).