Cyfaint siâp ydy mesuriad y cyfan o’i ofod 3D (tri dimensiwn). Gelli di ddefnyddio’r fformiwlâu syml canlynol i dy helpu i ganfod cyfaint siapiau megis ciwboidau a phrismau.
Rwyt ti’n gwybod eisoes mai cyfaint ciwboid ydy’r hyd wedi ei luosi â’i led wedi ei luosi â’i uchder.
\(({h}\times{ll}\times{u})\).
Arwynebedd y darn o’r ciwboid sydd wedi ei liwio (y trawstoriad) ydy \({lled}\times{uchder}\), felly gelli di ddweud hefyd mai cyfaint ciwboid ydy:
\[{arwynebedd~y~trawstoriad}\times{hyd}\]
Mae’r fformiwla hon yn gweithio ar gyfer pob prism:
Beth ydy cyfaint y prism trionglog hwn?
\[\text{cyfaint}={arwynebedd~y~triongl}\times{hyd}\]
\[= \frac{1}{2}\times{2}\times{5}\times{4}\]
\[= {20}~{cm}^{3}\]
Beth ydy cyfaint y prism hwn?
Arwynebedd y trawstoriad ydy \({5}~{cm}^{2}\) a’r hyd ydy \({8}~{cm}\), felly'r cyfaint ydy \({5}\times{8}={40}~{cm}^{3}\).
Cofia mai’r cyfaint ydy \({arwynebedd~y~trawstoriad}\times{hyd}\).