Cyfaint siâp ydy mesuriad y cyfan o’i ofod 3D (tri dimensiwn). Gelli di ddefnyddio’r fformiwlâu syml canlynol i dy helpu i ganfod cyfaint siapiau megis ciwboidau a phrismau.
Mae cyfaint siâp yn mesur faint o ofod \({3D}\) (tri dimensiwn) y mae’n ei lenwi. Mae cyfaint yn cael ei fesur mewn ciwbiau.
Mae gan giwb centimetr ochrau \({1}~cm\) o hyd. Mae ganddo gyfaint o \({1}~cm^{3}\) (\({1}~cm\) wedi ei giwbio).
Mae’r ciwboid hwn yn cynnwys \({12}\) o giwbiau. Mae gan bob ciwb gyfaint o \({1}~cm^{3}\). Felly cyfaint y ciwboid hwn ydy \({12}~cm^{3}\).
Canfydda gyfaint y ciwboidau canlynol:
a)
b)
a) \({8}~cm^{3}\)
b) Mae dwy haen o naw ciwb, felly'r cyfaint ydy \({18}~cm^{3}\)