Technegau mapio

Mae rhai mathau o ddata yn haws eu deall pan maen nhw’n cael eu dangos ar fap. Mae hyn yn wir gyda data gofodol yn enwedig, lle mae’n bwysig lledaenu’r data.

Mapiau coropleth

Mae mapiau coropleth yn dangos data cyfwng (data sydd wedi’i gysylltu yn hytrach na data o wahanol gategorïau) ar ffurf lliwiau. Maen nhw’n cael eu graddliwio gan ddefnyddio arlliwiau gwahanol o’r un lliw, lle mae’r arlliwiau tywyll yn cynrychioli rhifau mwy a’r arlliwiau golau’n cynrychioli rhifau llai. Gyda map coropleth, mae angen allwedd i egluro beth yw ystyr y gwahanol arlliwiau. Mae modd dangos dwysedd poblogaeth gan ddefnyddio map coropleth.

Map coropleth yn dangos dwysedd poblogaeth.

Mae’r map o’r byd uchod yn dangos mai’r ardaloedd â’r boblogaeth fwyaf dwys yw gorllewin Ewrop, gogledd-ddwyrain UDA a mannau arfordirol yn Asia, fel China. Mae’r ardaloedd â’r boblogaeth leiaf (melyn) ar draws yr ardaloedd pegynol, ledled De America a rhannau o ganol Awstralia. Mae Gogledd Affrica a’r Dwyrain Canol hefyd yn ardaloedd o’r byd sydd â phoblogaeth denau.

Mapiau isolin neu siartiau synoptig

Mae mapiau isolin yn dangos llinellau sy’n cysylltu ardaloedd neu werthoedd sy’n hafal. Caiff gwasgedd atmosfferig ei ddangos gan ddefnyddio map isolin. Caiff ardaloedd â’r un gwasgedd eu cysylltu gan ddefnyddio llinell, sy’n helpu pobl i weld lleoliad systemau gwasgedd uchel a gwasgedd isel.

Mae map isolin yn defnyddio llinellau i ddangos ardaloedd sydd â gwerth tebyg.

Mae’r map isolin uchod yn dangos bod cefnen o wasgedd uchel dros ogledd yr Eidal a chafn o wasgedd isel oddi ar arfordir yr Alban.

Mapiau dot

Mae mapiau dot yn dangos gwybodaeth ar ffurf dotiau unigol ar fap. Gall pob dot gynrychioli mwy nag un o rywbeth. Defnyddir mapiau dot yn aml i ddangos dosbarthiad poblogaeth.

Mae mapiau dot yn defnyddio dotiau i gynrychioli nifer benodol o bobl. Mae allwedd yn egluro faint o bobl mae pob dot yn ei gynrychioli, ee 1 dot = 100,000 o bobl.

Yn y map dotiau mae’n bosibl gweld bod y rhan fwyaf o bobl yn byw yng ngorllewin Ewrop, yng ngogledd-ddwyrain UDA ac mewn ardaloedd arfordirol yn nwyrain Asia, fel China. Mae’r ardaloedd â’r boblogaeth leiaf (melyn) ar draws yr ardaloedd pegynol, ledled De America a rhannau o ganol Awstralia ac Asia.

Llinellau tuedd a llinellau llif

Mae mapiau llinellau llif a thuedd yn dangos symudiad o un lle i’r llall:

  • mae llinellau llif yn dangos union lwybr y symudiad
  • mae llinellau tuedd yn dangos cyfeiriad cyffredinol symudiad

Caiff symudiadau eu cynrychioli gan linellau. Mae llinellau trwchus yn dangos bod llawer o bobl yn symud, a llinellau tenau’n dangos bod ychydig o bobl yn symud. Caiff patrymau masnach neu fudo eu cyfleu drwy ddefnyddio llinellau llif neu duedd yn aml.

Mae map llinellau tuedd yn defnyddio llinellau i ddangos pobl yn mudo rhwng gwledydd.

Drwy ddehongli’r map llinellau llif, gallwn weld bod mewnfudwyr yn dod i Brydain yn uniongyrchol o dri lleoliad – y Caribî, Uganda ac India/Pacistan. Mae hefyd yn dweud wrthyn ni bod pobl o’r DU yn mudo i Dde Affrica, Awstralia a Seland Newydd, ac mai’r bobl hyn sy’n teithio bellaf.

Symbolau cyfrannol

Mae modd ychwanegu symbolau cyfrannol at fap i ddangos y gwahaniaethau rhwng llefydd. Mae’r un symbol yn ymddangos yn fwy neu’n llai, yn ddibynnol ar sut mae rhywbeth yn newid. Mae'n bosibl defnyddio symbolau cyfrannol ar fapiau i ddangos faint o ffermydd gwynt sydd mewn gwlad.

Mae map symbolau cyfrannol yn defnyddio maint siapiau i gymharu data.Safleoedd ynni gwynt ledled y DU, lle mae maint y cylchoedd yn cyfateb i faint o drydan sy’n cael ei gynhyrchu

Mae’r lleoliad sy’n cynhyrchu’r mwyaf o ynni oddi ar arfordir dwyreiniol Norfolk, Lloegr. Fodd bynnag, mae llawer o leoliadau ledled yr Alban sydd, gyda’i gilydd, yn cynhyrchu’r swm mwyaf o drydan yn y DU.

Move on to Test
next