Y gerdd

Y Coed

by Gwenallt (David James Jones)
Chwe miliwn o goed yng Nghaersalem, fe’u plannwyd hwy
Yn goeden am bob corff a losgwyd yn y ffyrnau nwy.
Coed sydd yn estyn eu gwreiddiau i ganol lludw pob ffwrn,
Y lludw sydd wedi mynd ar goll, heb fynwent na bedd na wrn.
Chwithig oedd gweled y cangau fel cofgolofnau byw,
Ac nid marmor na gwenithfaen, na hyd yn oed yr angladdol yw.
Ni chlywem ni na chlychau’r eglwys na mŵesin y mosg,
Ond clywed rhwng eu cangau hwy y marwnadau llosg.
Nid yw’r dwylo a’u plannodd yn ddieuog, na’u cydwybod yn lân,
Canys diddymodd yr Israeliaid bentrefi’r Arabiaid â’u tân.
Pam na ddylai’r Arabiaid, hwythau, godi yn Cairo ac Amân
Fforestydd o goed i gofio?
Ond ni allwn ni gondemnio’r Natsïaid na’r Iddewon ychwaith
Canys fe droesom o’r awyr Dresden yn un uffern faith;
A gollwng y ddau fom niwclear ar y ddwy dre yn Japan.
O’r holl ganrifoedd a gerddodd ar y ddaear er cychwyn y byd,
Yr ugeinfed yw’r fwyaf barbaraidd ohonynt hwy i gyd.
A bydd y nesaf yn waeth am fod y bomiau a’r rhocedi yn fwy,
A dyfeisir mewn labordai dirgel sawl math o nwy.
A phan ddaw’r trydydd Rhyfel i gadw ei ddychrynllyd oed,
Ni ellir rhifo’r lladdedigion llosg, na rhifo ychwaith y coed.
Chwe miliwn o goed yng Nghaersalem, chwe miliwn, a thair croes,
Ac ar y ganol Yr Unig Un a fu’n byw'r Efengyl yn ei oes.
Daw’r tymhorau i newid eu lliwiau, gwyrdd, melyn a gwyn.
Ond coedwig y marwolaethau’n aros a fyddant hwy, er hyn.
Pan fyddant ymhen blynyddoedd wedi tyfu i’w llawn maint,
Fe wêl y genhedlaeth honno nad oeddem ni yn llawer o saint.