Mae crefydd a gwyddoniaeth yn gofyn gwahanol fathau o gwestiynau am y bydysawd a’i darddiad. Mae’r rhan fwyaf o grefyddau’n croesawu darganfyddiadau gwyddonol ond mewn ffyrdd gwahanol i’w gilydd.
Corff yw H4BW (Humanists for a Better World - Dyneiddwyr o Blaid Byd Gwell) sy’n cydweithio â Chymdeithas Dyneiddwyr Prydain. Mae H4BW yn gweithio ar, ac yn codi ymwybyddiaeth o faterion amgylcheddol, cymdeithasol a byd-eang. Eu nod yw mynd i’r afael â materion sy’n wynebu’r byd heddiw a’u datrys er mwyn cenedlaethau heddiw a fory.
Dydy dyneiddwyr ddim yn gweld yr angen am fod goruwchnaturiol sy’n penderfynu sut mae bodau dynol yn gweithredu. Maen nhw’n dibynnu ar wyddoniaeth i wneud penderfyniadau, ac yn seilio’u gweithredoedd ar hynny.
Rhestrodd Cymdeithas Dyneiddwyr Prydain saith datganiad ar yr amgylchedd a’u cyfrifoldeb tuag ato. Dyletswyddau dyneiddwyr yw: