Wrth daflu ceiniog, mae siawns gyfartal o gael pen neu gynffon. Ond mewn rhai achosion, yn lle defnyddio canlyniadau sydd yr un mor debygol mae angen defnyddio’r hyn a elwir yn ‘amlder cymharol’.
Rho gynnig ar y cwestiynau enghreifftiol hyn am amlder cymharol.
Gofynnwyd i \({100}\) o bobl a oedden nhw’n llaw chwith. Atebodd pedwar yn gadarnhaol. Beth ydy amlder cymharol bod yn ‘llaw chwith’?
Yr amlder cymharol ydy \(\frac{4}{100} = \frac{1}{25}\) neu \({0.04}\).
Cymerwyd cownter gwyn o fag oedd yn cynnwys cownteri gwahanol liwiau, ac wedyn ei roi’n ôl. Cafodd hyn ei wneud nifer fawr o weithiau. Gwelwyd mai \({0.3}\) oedd amlder cymharol cael cownter gwyn. Os oedd \({20}\) o gownteri yn y bag, amcangyfrifa nifer y cownteri gwyn.
Amlder cymharol y cownteri gwyn ydy \({0.3}\), ac mae \({20}\) cownter yn y bag, felly, fel amcangyfrif, \({0.3}\times{20} = {6}\) cownter gwyn yn y bag.