Mae gwirfoddoli yn y gymuned leol yn rhoi llawer o foddhad i ni. Mae gosod nodau ac amcanion priodol, yn ogystal â chymhwyso sgiliau rheoli project, yn rhan o’r broses o gynllunio a threfnu.
Mae hyn yn golygu penderfynu beth sy’n dasg frys a beth sy’n dasg bwysig. Mae gosod y tasgau yn nhrefn eu blaenoriaeth yn syniad da, oherwydd mae’n bosibl neilltuo mwy o amser wedyn i’r tasgau pwysig a’r rhai sydd angen eu gwneud gyntaf. Y duedd naturiol yw canolbwyntio ar dasgau syml.
Techneg ddefnyddiol wrth reoli amser yw defnyddio log amser. Siart wedi’i rannu’n gyfnodau o 30 munud yw hwn. Y syniad yw bod rhywun yn llenwi’r siart â gwybodaeth ynglŷn â beth yn union gafodd ei wneud yn ystod y diwrnod, o amser codi tan amser mynd i’r gwely.
Mae’n ffordd o ganfod yr adegau prysur, yr adegau tawel a’r adegau pan fyddai rhywun wedi gallu gwneud defnydd mwy cynhyrchiol o’i amser.
Drwy sicrhau bod papur a phensil neu gyfarpar electronig cyfatebol ar gael yn dy fag, gelli di greu a monitro rhestr o bethau i’w gwneud unrhyw bryd. Dylai’r rhestr dynnu sylw at y tasgau pwysig yn ogystal â chofnodi terfynau amser ac unrhyw wybodaeth berthnasol arall.
Pan fydd problemau'n codi, ac amser yn ymddangos yn brin, paid â chynhyrfu a phoeni'n ormodol.
Mae dyfalbarhau’n golygu meithrin agwedd gadarnhaol at rwystredigaeth a methiant. Mae bod yn bendant ac yn rhagweithiol yn gallu helpu hefyd. Os wyt ti’n gweithio fel rhan o dîm, efallai bydd angen i ti ddirprwyo mwy, neu ofyn am fwy o ymroddiad gan y tîm er mwyn cyflawni prif nod y grŵp.
Mae oedi yn golygu gohirio pethau. Mae’n debyg mai nawr yw’r amser gorau i wneud rhywbeth rwyt ti wedi bod yn ei ohirio.