Mae gwirfoddoli yn y gymuned leol yn rhoi llawer o foddhad i ni. Mae gosod nodau ac amcanion priodol, yn ogystal â chymhwyso sgiliau rheoli project, yn rhan o’r broses o gynllunio a threfnu.
Mae asesiadau risg yn golygu cwblhau cyfres o dasgau mewn trefn benodol.
Rhaid gwirio risgiau iechyd a diogelwch mewn ffordd systematig. Mae hyn yn golygu edrych am unrhyw beth a allai achosi niwed. Mae pedwar categori risg:
Rho’r risgiau a ganlyn yn y categori risg priodol – Corfforol/Meddyliol/Cemegol/Biolegol.
Corfforol
Meddyliol
Cemegol
Biolegol
Ar ôl nodi’r risgiau, bydd angen i sefydliad benderfynu pwy allai gael niwed a sut. Nid enwi unigolion mae hyn yn ei olygu, ond nodi grwpiau o bobl a dweud beth yw’r risg iddynt.
Gan gyfeirio’n ôl at y pedwar categori, sef peryglon corfforol/meddyliol/cemegol/biolegol, pa gategori fyddai’n achosi’r risg fwyaf i staff sy’n llenwi silffoedd mewn archfarchnad?
Peryglon corfforol.
Gallai staff sy’n llenwi silffoedd fod mewn perygl o anafu eu cefnau gan eu bod yn codi llawer o focsys.
Gan gyfeirio’n ôl at y pedwar categori, sef peryglon corfforol/meddyliol/cemegol/biolegol, pa gategori fyddai’n achosi’r risg fwyaf i staff glanhau mewn gwesty?
Peryglon cemegol.
Gallai staff glanhau mewn gwesty fod mewn perygl o gael niwed ar ôl dod i gysylltiad â hylifau glanhau.
Ar ôl canfod y peryglon, rhaid penderfynu beth sydd angen ei wneud er mwyn osgoi niwed.
Gallai hyn olygu cael gwared ar y peryglon yn gyfan gwbl neu geisio lleihau’r risgiau sy’n gysylltiedig â phob perygl.
Mae modd gwneud hyn drwy ddarparu dillad diogelwch, drwy ddarparu hyfforddiant perthnasol neu, yn syml iawn, drwy roi rhwystr rhwng pobl ag unrhyw beryglon.
Rhaid penderfynu hefyd pa mor debygol yw pob perygl o achosi niwed. Bydd angen rhoi sgôr risg uchel, cymedrol neu isel i bob perygl. Bydd angen ystyried dau ffactor er mwyn penderfynu pa sgôr i’w rhoi:
Os yw risg yn debygol o gael effaith ddifrifol, a bod y posibilrwydd y bydd yn digwydd yn cael ei ystyried fel tebygol, yna dylai’r perygl gael sgôr 'oren ac uchel'. Er enghraifft, gallai roller-coaster mewn ffair gael canlyniadau difrifol pe bai pethau’n mynd o chwith, a gallai’r posibilrwydd y bydd hyn yn digwydd gael ei ystyried fel tebygol, gan ein bod wedi clywed am nifer o achosion yn y newyddion.
Os yw risg yn debygol o gael canlyniadau bach iawn a bod y siawns y bydd yn digwydd yn annhebygol, yna gall y perygl gael sgôr ‘gwyrdd ac isel’, ee plentyn yn llosgi mewn dosbarth Economeg y cartref.
Sut fyddet ti’n dosbarthu’r peryglon a ganlyn?
Bydd ysgrifennu’r canfyddiadau yn dangos bod gwiriad priodol wedi cael ei wneud. Mae cofnod ysgrifenedig hefyd yn dangos bod sylw wedi cael ei roi i beryglon mawr ac amlwg a bod unrhyw ragofalon oedd yn eu lle yn rhai rhesymol.
Mae sefyllfaoedd yn newid o hyd, felly mae’n bwysig adolygu asesiadau risg yn rheolaidd a’u diweddaru er mwyn gwneud yn siŵr eu bod yn gyfredol.