Mynydd Merapi, Indonesia 2010

Lleoliad

Mae Mynydd Merapi ar ynys Jawa, yng Nghefnfor India.

Mae Mynydd Merapi (sy’n golygu Mynydd Tân) yn stratolosgfynydd (neu losgfynydd cyfansawdd) actif yn Ne-ddwyrain Asia, ar ynys Jawa, Indonesia, gwlad incwm isel (LIC). Dyma’r llosgfynydd mwyaf actif yn Indonesia, ac mae wedi echdorri’n rheolaidd er 1548.

Mae Merapi yn un o’r rhannau mwyaf trwchus eu poblogaeth yn Jawa, ac mae dros 11,000 o bobl yn byw ar lethrau’r mynydd. Ffermwyr tlawd yw’r rhan fwyaf o’r bobl hyn, ac maen nhw’n dibynnu ar y pridd ffrwythlon am eu bywoliaeth. Mae pobl yn dewis byw mewn ardaloedd folcanig er gwaetha’r perygl o echdoriad. Gall llosgfynyddoedd ddarparu llawer o fudd i bobl, er enghraifft:

  • mae craig folcanig a lludw’n darparu tir ffrwythlon sy’n cynyddu cynnyrch cnydau ffermwyr
  • mae ymwelwyr yn cael eu denu at y llosgfynydd, ac mae hynny’n dod â mwy o arian i’r economi leol
  • drwy ddefnyddio egni geothermol, mae’n bosibl darparu trydan am ddim i bobl leol
  • mae lafa’n cynnwys mwynau, ee diemyntau, ac mae’n bosibl cloddio am y mwynau hyn i wneud arian

Ym Mawrth 2010 daeth yr arwyddion cyntaf y byddai’r llosgfynydd yn echdorri. Dangosodd mesuryddion gogwydd fod y gromen folcanig wedi dechrau ymchwyddo. Ym mis Medi roedd mwy o weithgaredd daeargrynfaol i’w weld, a dechreuodd cymylau gwyn o fwg godi uwchben crater y llosgfynydd. Dydd Llun, 25 Hydref 2010, echdorrodd Merapi a daliodd i echdorri tan 30 Tachwedd.

Echdoriad folcanig Mynydd Merapi yn Jawa, yn Indonesia. Mae lafa i’w weld yn llifo i lawr ochr y mynydd.
Mynydd Merapi

Achosion

Digwyddodd y llosgfynydd a’i echdoriadau oherwydd bod plât Indo-Awstralia wedi cael ei dansugno o dan blât Ewrasia. Mae’r llosgfynydd ar ymyl plât distrywiol, mewn cylchfa tansugno, sy’n rhan o Gylch Tân y Cefnfor Tawel.

Effeithiau ffisegol

  • Ymledodd bomiau folcanig a chymylau gwres, â thymereddau hyd at 800°C, dros bellter o 10 cilometr.
  • Teithiodd llifoedd pyroclastig dair cilometr i lawr ochrau poblog y mynydd.
  • Disgynnodd lludw folcanig hyd at 30 cilometr i ffwrdd, ac aeth mor uchel â chwe chilometr i fyny i’r awyr.
  • Cafodd pentrefi, fel Bronggang, 15 cilometr o’r llosgfynydd, eu claddu dan 30 cm o ludw.
  • Cafodd sylffwr deuocsid ei chwythu ar draws Indonesia a Chefnfor India, a chyn belled i’r de ag Awstralia.

Effeithiau cymdeithasol ac economaidd

  • Amharodd y cymylau lludw ar deithiau hedfan yn y rhanbarth.
  • Roedd tagfeydd ar y ffyrdd wrth i’r trigolion geisio ffoi o’r cylchfaoedd perygl yn eu ceir ac ar feiciau modur.
  • Cododd pris llysiau oherwydd y difrod i’r cnydau.
  • Bu’n rhaid i 350,000 o bobl oedd yn byw yn yr ardal adael eu cartrefi.
  • Achosodd glaw trwm ar 4 Tachwedd 2010 laharau, gan olchi lludw a chreigiau i lawr i drefi a dinistrio pontydd.
  • Cafodd ysgolion eu cau.
Aelodau o dîm chwilio ac achub wedi eu gorchuddio mewn cwmwl o ludw folcanig.
Cwmwl lludw o echdoriad Mynydd Merapi

Effeithiau tymor hir

Ffisegol

  • Bydd y lludw’n arwain yn y pen draw at briddoedd mwy ffrwythlon yn yr ardal.
  • Mae data newydd o’r echdoriad wedi golygu bod modd diweddaru mapiau peryglon, a’u defnyddio i sefydlu ardaloedd dan waharddiad o amgylch y llosgfynydd.

Cymdeithasol ac economaidd

  • Cafodd 353 o bobl eu lladd, a chafodd 577 o bobl eu hanafu.
  • Arweiniodd canolfannau lloches gorlawn at broblemau glanweithdra. Doedd dim preifatrwydd ac roedd perygl difrifol o glefydau.
  • Collodd pobl eu cartrefi a’u bywoliaeth, yn enwedig ffermwyr.
  • Cafodd 350,000 o bobl eu gwneud yn ddigartref.

Ymatebion er mwyn lleihau’r risg

  • Cafodd 210 o ganolfannau lloches eu sefydlu mewn ysgolion, eglwysi a stadiymau, ac yn swyddfeydd y llywodraeth.
  • Cafodd ardal dan waharddiad ei sefydlu. Roedd yn ymestyn am 20 cilometr o amgylch y llosgfynydd.
  • Bu Asiantaeth Reoli Trychinebau Indonesia yn cyd-drefnu gwirfoddolwyr, y fyddin a’r heddlu er mwyn lledaenu gwybodaeth, achub goroeswyr, rheoli traffig, a sefydlu ysbytai a cheginau dros dro mewn canolfannau lloches.
  • Cafodd cymorth rhyngwladol ei gynnig gan lywodraethau a chyrff anllywodraethol fel y Groes Goch a’r Cilgant Coch.

Ymatebion er mwyn cynyddu’r capasiti i ymdopi

  • Cafodd 2,682 o bobl eu symud i gartrefi newydd parhaol, mwy diogel.
  • Cafodd arian ei ryddhau gan y llywodraeth i helpu ffermwyr i gael anifeiliaid yn lle’r rhai roedden nhw wedi eu colli.
  • Sefydlodd y llywodraeth dasglu arbennig i gynorthwyo pobl oedd wedi cael eu heffeithio gan y llosgfynydd, oherwydd materion teuluol, neu oherwydd eu bod wedi colli eu gwaith.
  • Cafodd ardal dan waharddiad barhaol o 2.5 cilometr o radiws ei sefydlu, a chafodd pobl eu symud i ardaloedd lle roedd llai o risg.
  • Cafodd camau i geisio rhagweld daeargrynfeydd eu cyflwyno, ac addysg ynglŷn â threfn ymgilio.
  • Cafodd argaeau eu hadeiladu mewn dyffrynnoedd er mwyn dal laharau yn ôl.
Move on to Test
next