Ble mae llosgfynyddoedd i’w gweld?

Mae llosgfynyddoedd yn ffurfio pan mae magma, sef craig dawdd dan gramen y Ddaear, yn cyrraedd yr arwyneb. Mae’r magma yn echdorri ac yn ffurfio lafa.

Fel arfer, mae llosgfynyddoedd yn ffurfio ar ffiniau platiau, lle mae platiau tectonig naill ai’n symud tuag at ei gilydd neu oddi wrth ei gilydd:

  • Ffin ddargyfeiriol (neu ffin adeiladol) - pan mae dau blât yn symud oddi wrth ei gilydd. Mae magma yn codi i lenwi’r bylchau rhwng y platiau, fel arfer i greu llosgfynydd tarian.
  • Ffin gydgyfeiriol (neu ffin ddistrywiol) - lle mae dau blât yn symud tuag at ei gilydd. Mae’r gramen gefnforol yn suddo o dan y gramen gyfandirol mewn cylchfa tansugno – man lle mae’r plât cefnforol, sydd â dwysedd uwch, yn cael ei wthio o dan y plât cyfandirol, sydd â dwysedd is. Wrth i’r gramen gefnforol suddo i’r fantell, mae’n toddi ac yn creu magma, ac yn cynyddu’r gwasgedd. Mae’r magma hwn yn codi i ffurfio llosgfynyddoedd cyfansawdd ffrwydrol (sydd hefyd yn cael eu galw yn stratolosgfynyddoedd).

Mae llosgfynyddoedd yn effeithio ar wahanol leoedd mewn gwahanol ffyrdd. Maen nhw’n achosi mwy o ddifrod mewn gwledydd tlawd, lle mae llai o adnoddau i ragweld a pharatoi ar eu cyfer.

Map o’r byd yn dangos y prif blatiau a lleoliad llosgfynyddoedd byw (dotiau coch).