Y gerdd

Walkers’ Wood

by Myrddin ap Dafydd
Bore hydrefol hyfryd oedd hi a Betws-y-Coed bron yn wag o ymwelwyr. Lliwiau gwych ar y coed, dim acenion main i’w clywed ar y llwybr - oedd, roedd hi’n foment farddonllyd. Ond yna, dyma’r bychan yn holi a dyma weld bod y fusutors wedi gwneud llanast o’r lle mewn mwy nag un ffordd. Dyna’r drwg efo’r diwydiant ymwelwyr - maen nhw’n dod yma gan ddyheu am baradwys ac yn mynd o’ma gan adael y lle’n stomp.
‘Oes ’na enw ar y coed ’ma, Dad?
- I mi gael dweud y stori fawr wrth Taid.’
‘Coed Llugwy ydi’r enw arnynt, was,
Ond Walkers’ Wood sydd yn y Betws Guide.’
‘Pam fod y dail ar hyd y ddaear, Dad?
Pam fod eu lliw run fath â crisps yn awr?’
‘Mae popty’r hydref wedi’u rhostio, was,
A’u taenu’n wledd ar hyd y llawr.’
‘Ble ddaeth hon, y ddeilen felen, Dad,
A dannedd mân ar hyd ei hymyl hi?’
‘Mae’i chwiorydd ar y gollen acw, was,
Sy’n rhannu ei gofidiau gyda’r lli.’
‘A hon, run lliw â cheiniog newydd, Dad?’
‘Mae twll ym mhwrs y ffawydd, beryg iawn.’
‘A’r rhain, fel darnau o jig-so ’ta, Dad?’
‘Y dderwen acw ydi’r llun yn llawn.’
‘Oddi ar pa goeden y daeth nacw, Dad?
Mae’n wyrdd a glas, mae’n sgleinio yn y mwd.’
‘Paced o Walkers’ Crisps ’di hwnna, was,
Ar ôl y rhai fu’n crwydro Walkers’ Wood.’