Effaith catalyddion

Gallwn ni gynyddu cyfradd adwaith drwy ychwanegu catalydd addas.

curriculum-key-fact
Catalydd yw sylwedd sy’n newid cyfradd adwaith heb iddo ei hun newid yn ystod yr adwaith.

Dim ond swm bach iawn o gatalydd sydd ei angen i gynyddu cyfradd adwaith rhwng symiau mawr o adweithyddion.

Mae catalydd yn benodol i adwaith penodol:

  • mae gwahanol gatalyddion yn catalyddu gwahanol adweithiau
  • does dim catalydd addas i bob adwaith
Graff yn dangos pa mor effeithiol yw Manganîs (IV) ocsid, Copr (II) ocsid a Sinc ocsid fel catalyddion ar gyfer dadelfennu hydrogen perocsid.Graff yn dangos pa mor effeithiol yw gwahanol ocsidau metel fel catalyddion ar gyfer dadelfennu hydrogen perocsid

Mae’r tabl hwn yn crynhoi rhai catalyddion cyffredin sy’n cael eu defnyddio mewn diwydiant a’r adweithiau maen nhw’n eu catalyddu.

CatalyddAdwaith mae’n ei gatalyddu
HaearnGwneud amonia o nitrogen a hydrogen
PlatinwmGwneud asid nitrig o amonia
Fanadiwm(V) ocsidGwneud asid sylffwrig