Mae cyfraddau adweithiau cemegol yn cynyddu neu'n lleihau gan ddibynnu ar ffactorau fel tymheredd, gwasgedd a golau. Mae catalydd yn newid cyfradd adwaith heb iddo ei hun newid yn ystod yr adwaith.
Mae modd cynyddu cyfradd adwaith cemegol drwy gynyddu arwynebedd arwyneb adweithydd solet. Mae hyn yn cael ei wneud drwy dorri’r sylwedd yn ddarnau bach, neu drwy ei falu’n bowdr.
I grynhoi:
Os ydyn ni’n cynyddu arwynebedd arwyneb adweithydd:
Dyma sut mae llinell graff adwaith ag adweithydd fel powdr yn wahanol i linell yr un adwaith â’r adweithydd fel lympiau:
Mae hyn yn dangos bod cyfradd yr adwaith yn fwy pan mae’r arwynebedd arwyneb yn fwy.
Bydd adweithiau yn cynhyrchu yr un cyfaint os yw holl ffactorau’r adweithyddion yr un fath, hynny yw màs y solid, cyfaint yr asid. Os bydd un o’r ffactorau yn cael ei haneru, bydd yr adwaith yn cynhyrchu hanner y cyfaint. Os bydd un o’r ffactorau yn cael ei ddyblu, bydd yr adwaith yn cynhyrchu dwbl y cyfaint.
Mae hyn yn berthnasol i bob ffactor sy’n gallu newid y gyfradd.