Mae cyfraddau adweithiau cemegol yn cynyddu neu'n lleihau gan ddibynnu ar ffactorau fel tymheredd, gwasgedd a golau. Mae catalydd yn newid cyfradd adwaith heb iddo ei hun newid yn ystod yr adwaith.
Gallwn ni newid cyfradd adwaith cemegol drwy newid crynodiad adweithydd mewn hydoddiant, neu wasgedd adweithydd nwyol.
Os ydyn ni’n cynyddu’r crynodiad neu’r gwasgedd:
Dyma sut mae llinell graff adwaith ar grynodiad (mewn hydoddiant) neu wasgedd (mewn nwy) uwch yn wahanol i linell yr un adwaith ar grynodiad neu wasgedd is:
Mae hyn yn dangos bod cyfradd yr adwaith yn fwy ar y crynodiad neu wasgedd uwch.