Gellir trawsffurfio siapiau mewn sawl ffordd, yn cynnwys trawsfudo, cylchdroi, adlewyrchu a helaethu. Disgrifir maint helaethiad gan ei ffactor graddfa a disgrifir ei safle gan ganol yr helaethiad.
I drawsfudo siâp, gelli di ei symud i fyny neu i lawr neu o ochr i ochr, ond paid â’i newid mewn unrhyw ffordd arall.
Pan mae siâp yn cael ei drawsfudo, rhaid symud pob un o’r fertigau (corneli) yn yr un modd yn union.
Pa siapiau sy’n drawsfudiadau o driongl \({A}\)?
Mae \({D}\) ac \({E}\) yn drawsfudiadau o driongl \({A}\).