Mae cyflymder adweithiau cemegol yn amrywio. Mae cyfradd adwaith yn mesur faint o gynnyrch sy'n cael ei wneud mewn amser penodol. Er mwyn i adweithiau ddigwydd, rhaid i ronynnau'r adweithyddion wrthdaro.
Yr egni actifadu yw isafswm yr egni sydd ei angen ar gyfer ‘gwrthdrawiadau llwyddiannus’ lle mae’r atomau yn yr adweithyddion yn ad-drefnu i ffurfio cynhyrchion. Gallwn ni gynrychioli hyn ar ddiagram lefel egni.
Mae’r diagram yn dangos bod yr egni actifadu’n is wrth ddefnyddio catalydd. Mae hyn yn golygu bod mwy o’r gwrthdrawiadau’n llwyddiannus ar dymheredd penodol. Felly mae catalydd yn cynyddu cyfradd yr adwaith drwy ostwng yr isafswm egni sydd ei angen ar gyfer ‘gwrthdrawiadau llwyddiannus’.