Mae cyflymder adweithiau cemegol yn amrywio. Mae cyfradd adwaith yn mesur faint o gynnyrch sy'n cael ei wneud mewn amser penodol. Er mwyn i adweithiau ddigwydd, rhaid i ronynnau'r adweithyddion wrthdaro.
Fydd gwrthdrawiad heb ddigon o egni ddim yn cynhyrchu adwaith.
Rhaid i’r gronynnau sy’n gwrthdaro fod â digon o egni i’r gwrthdrawiad fod yn llwyddiannus neu’n effeithiol a chynhyrchu adwaith.
Yr isafswm egni sydd ei angen er mwyn i’r adwaith ddigwydd yw’r egni actifadu.
Mae cyfradd adwaith yn dibynnu ar gyfradd y gwrthdrawiadau llwyddiannus rhwng gronynnau’r adweithyddion. Y mwyaf o wrthdrawiadau llwyddiannus sydd, y cyflymaf fydd cyfradd yr adwaith.